Back to RWCMD main site

World Harp Congress 2020 Awarded to Wales

13 October 2015

The Royal Welsh College of Music & Drama is delighted to announce that the 14th World Harp Congress will be held in the UK in 2020, following a successful bid to host the prestigious event in Cardiff.

The bid was led by former Royal Harpist Catrin Finch, who will be the Artistic Director for World Harp Congress 2020, in partnership with the Royal Welsh College of Music & Drama, of which she is a Fellow and Artist-in-Residence.

The illustrious artistic committee which includes many of Wales’s foremost performers, is led by Caryl Thomas, head of harp at the College. College Principal, Hilary Boulding and Caryl Thomas travelled to Hong Kong this summer to present the winning bid for Wales.

(The featured image shows Alice Giles, Artistic Director, WHC Sydney 2014, Hannah Stone, Catrin Finch & Caryl Thomas)

Harp students performing at the World Harp Congress 2020 Launch

RWCMD Harp students performing at the World Harp Congress 2020 Launch

With members from over 50 countries this triannual festival aims to promote harp music internationally with concerts, workshops and seminars embracing all aspects of harp music and performance. The previous congress was held in Australia in 2014 and the next congress will take place in Hong Kong in 2017.

“I’m looking forward to welcoming international harpists to Wales, where we have a particular passion for the harp. Cardiff is a thriving and cosmopolitan capital city and will provide an ideal setting,” said Catrin Finch, Artistic Director of the UK Congress.

“Today Cardiff regularly plays host to international cultural, political and sporting events, and we have wonderful venues in which to hold world class concerts, exhibitions and masterclasses, including the spectacular Royal Welsh College of Music & Drama, which will be the host venue. We particularly want to use this opportunity to reach out and engage young harpists and the wider harp community and connect them to this international  celebration of our instrument.

I feel very privileged to be leading a wonderful, artistic team of internationally renowned harpists and colleagues, to deliver a truly memorable harp festival in 2020.”

“The World Harp Congress Board of Directors is delighted that our 14th Congress will be held in the vibrant city of Cardiff, Wales,” adds Kathy Keinzle, Chairman of the Board of Directors of the World Harp Congress.

“The tradition of music and the harp are very important to this city, making it an ideal location for our festival. We are so pleased that the Royal Welsh College of Music & Drama will be hosting the Congress, and we know that the artistic team will plan an inspiring, world class event.”

The winners of the Lyon & Healy Awards 2013, held at the College, including RWCMD student Llywelyn Jones

The winners of the Lyon & Healy Awards 2013, held at the College, including RWCMD student Llywelyn Jones

Why the World Harp Congress has come to Wales:

  • The harp is the only traditional instrument in Wales with an unbroken history up to the present day. It is also the instrument most often cited in Welsh literature through the ages and takes centre stage in many of Wales’ cultural events: there’s a harp category at the National Eisteddfod, and the harp accompanies traditional Welsh dances.
Students playing at the 2013 Lyon & Healy Harp Festival at the College

Students playing at the 2013 Lyon & Healy Harp Festival at the College

  • It’s not just a part of Wales’ history, Wales continues to develop and nurture an unsurpassable number of harpists, including Royal Harpists Catrin Finch, who was the first to take on the revived role, Hannah Stone, who is also a graduate of the Royal Welsh College, and the current title holder Anne Denholm, who was a student of the College’s Junior Conservatoire.
  • There are more harps per capita in Wales than in any other country in the world – it really is the ‘Land of the Harp’. In Cardiff alone there are currently around 30 professional harpists and over 550 school children learning to play the harp.
  • Wales has its own special harp, Y Delyn Deires – the Triple Harp – which is still played today, and its own unique form of singing, Cerdd Dant, poetry sung to harp accompaniment.
  • Cardiff and Harp Festivals are synonymous: Cardiff has hosted two World Harp Festivals in the 1990s, the 7th European Harp Symposium in 2007 and the Lyon and Healy Awards at the Royal Welsh College in 2013.

Key partners and supporters include the Welsh Government and Cardiff City Council.

 

For more information, and for interviews, contact Helen Dunning, Publicity Manager, Helen.Dunning@rwcmd.ac.uk, 029 2039 1422

 

Editors’ Notes
The World Harp Congress is a private non-profit organization, which was founded in 1981 as an outgrowth of the International Harp Weeks held in The Netherlands for twenty years under the leadership of Phia Berghout and Maria Korchinska.

 


 

 

Mae’n bleser mawr gan Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru gyhoeddi y cynhelir pedwaredd gŵyl ar ddeg Cyngres Telynau’r Byd yn y DU yn 2020, yn dilyn cais llwyddiannus i gynnal y digwyddiad mawreddog yng Nghaerdydd.

Arweiniwyd y cais gan y cyn Delynores Frenhinol Catrin Finch, a hi fydd Cyfarwyddwr Artistig Cyngres Telynau’r Byd 2020, mewn partneriaeth â Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru – coleg y mae hi’n Gymrawd ohono ac yn Artist Preswyl iddo. Arweinir y pwyllgor artistig hyglod, sy’n cynnwys nifer o berfformwyr mwyaf blaenllaw Cymru, gan Caryl Thomas, Pennaeth Adran y Delyn yn y Coleg. Teithiodd Prifathro’r Coleg, Hilary Boulding, a Caryl Thomas i Hong Kong yr haf hwn i gyflwyno’r cais buddugol ar ran Cymru.

Gydag aelodau o dros 50 o wledydd, nod yr ŵyl tair blynyddol hon yw hyrwyddo cerddoriaeth y delyn yn rhyngwladol drwy gyngherddau, gweithdai a seminarau yn cwmpasu pob agwedd ar gerddoriaeth a pherfformiad y delyn. Cynhaliwyd y gyngres ddiwethaf yn Awstralia yn 2014 a Hong Kong fydd yn croesawu’r ŵyl yn 2017.

“Rwy’n edrych ymlaen at groesawu telynorion rhyngwladol i Gymru, gwlad sy’n angerddol iawn dros y delyn. Mae Caerdydd yn brifddinas ffyniannus a chosmopolitan a bydd yn lleoliad delfrydol,” meddai Catrin Finch, Cyfarwyddwr Artistig Cyngres y DU.

“Bydd Caerdydd yn cynnal digwyddiadau diwylliannol, gwleidyddol a chwaraeon rhyngwladol yn rheolaidd, ac mae gennym leoliadau gwych ar gyfer cyngherddau, arddangosfeydd a dosbarthiadau meistr o’r radd flaenaf, yn cynnwys adeilad trawiadol Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, sef y lleoliad fydd yn cynnal yr ŵyl.

Hoffem fanteisio ar y cyfle hwn i estyn allan ac ymgysylltu â thelynorion ifanc a chymuned ehangach y delyn a’u cysylltu i’r dathliad rhyngwladol hwn o’n hofferyn. Mae’n fraint enfawr i mi fod yn arwain y tîm artistig gwych hwn o delynorion nodedig a chydweithwyr i gyflwyno gŵyl delynau hynod gofiadwy yn 2020.”

“Mae Bwrdd Cyfarwyddwyr Cyngres Telynau’r Byd wrth ei fodd mai yn ninas fyrlymus Caerdydd y cynhelir y bedwaredd Gyngres ar ddeg,” ychwanega Kathy Keinzle, Cadeirydd Bwrdd Cyfarwyddwyr Cyngres Telynau’r Byd.

“Mae’r traddodiad cerddorol a’r delyn yn bwysig iawn i’r ddinas hon, gan ei gwneud yn lleoliad delfrydol ar gyfer ein gŵyl. Rydym hefyd yn falch mai Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru fydd yn cynnal y Gyngres, a gwyddom y bydd y tîm artistig yn trefnu digwyddiad ysbrydoledig o’r radd flaenaf.”

Pam fod Cyngres Telynau’r Byd wedi dod i Gymru:

  • Y delyn yw’r unig offeryn traddodiadol yng Nghymru gyda hanes di-dor yn parhau hyd heddiw. Y delyn yw’r offeryn a ddyfynnir fwyaf mewn llenyddiaeth Gymreig drwy’r canrifoedd a bydd yn chwarae rhan flaenllaw yn nifer o ddigwyddiadau diwylliannol Cymru: mae categori ar gyfer y delyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol, a bydd y delyn yn cyfeilio i ddawnsfeydd traddodiadol Cymreig.
  • Nid dim ond rhan o hanes y wlad ydyw, mae Cymru’n parhau i ddatblygu a meithrin nifer dihafal o delynorion, yn cynnwys y Telynorion Brenhinol Catrin Finch, y gyntaf i gael ei phenodi pan atgyfodwyd y rôl, Hannah Stone, a raddiodd hefyd o Goleg Brenhinol Cymru, a deiliad presennol y teitl Anne Denholm, a oedd yn fyfyriwr yng Nghonservatoire Iau y Coleg.
  • Mae mwy o delynau y pen yng Nghymru nac yn unrhyw wlad arall yn y byd – ‘Gwlad y Delyn’ yn ddiamau. Yng Nghaerdydd yn unig ceir tua 30 o delynorion proffesiynol ac mae dros 550 o blant ysgol yn dysgu canu’r delyn.
  • Mae gan Gymru ei thelyn arbennig ei hun, y Delyn Deires, sy’n dal i gael ei chanu heddiw, a’i dull ei hun o ganu, Cerdd Dant – barddoniaeth a genir i gyfeiliant y delyn.
  • Mae Caerdydd a Gwyliau Telynau yn mynd law yn llaw: mae’r ddinas wedi cynnal dwy Ŵyl Telynau’r Byd yn y 1990au, 7fed Symposiwm Telynau Ewrop yn 2007 a Gwobrau Lyon and Healy yng Ngholeg Brenhinol Cymru yn 2013.

Mae partneriaid a chefnogwyr allweddol yn cynnwys Llywodraeth Cymru a Chyngor Dinas Caerdydd.

 

Am ragor o wybodaeth, neu i drefnu cyfweliadau, cysylltwch â Helen Dunning, Rheolwr Cyhoeddusrwydd, Helen.Dunning@rwcmd.ac.uk, 029 2039 1422

 

Nodiadau i Olygyddion
Sefydliad preifat nid er elw yw Cyngres Telynau’r Byd a sefydlwyd ym 1981 fel datblygiad o Wythnosau Telyn Rhyngwladol a gynhaliwyd yn yr Iseldiroedd am ugain mlynedd o dan arweiniad Phia Berghout a Maria Korchinska.